Mae’r holl bartneriaid prosiect ECCA yn aelodau o’r Rhwydwaith i Hyrwyddo Amrywiaeth Ieithyddol (NPLD). Rhwydwaith Ewropeaidd yw’r NPLD sy’n gweithio ym maes polisi iaith. Canolbwynt yr NPLD yw’r hyn a elwir yn ‘ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol’ fel y Gymraeg yn y Deyrnas Unedig, Frisian yn yr Iseldiroedd, Friulian a Ladin yn yr Eidal, Basgeg a Chatalaneg yn Sbaen. Nod yr NPLD yw codi ymwybyddiaeth yn Ewrop am bwysigrwydd amrywiaeth ieithyddol. Mae dros 40 o lywodraethau, sefydliadau iaith a phrifysgolion yn aelodau o’r NPLD ac maent yn cyfnewid arferion da gyda’u gilydd am gynllunio iaith ac yn cyfrannu at lobïo yn sefydliadau’r UE.
Cychwynnodd y prosiect ECCA yma gan 7 partner NPLD mewn 5 rhanbarth a rhoddwyd ffocws ar gydweithredu ar lefel prosiect ar draws y ffiniau. Yn 2023 mae’r prosiect yn cynnwys 8 rhanbarth iaith gwahanol. Diolch i gefnogaeth ariannol gan yr NPLD a phartneriaid NPLD sy’n rhan o’r prosiect am alluogi i’r prosiect ddigwydd. Diolch yn fawr i Lywodraeth yr Ynysoedd Balearig am eu cefnogaeth ac i’n galluogi i gynnal ail ran o brosiect ECCA .