Rhwng 12 – 15 Mai, bydd 24 person ifanc o 8 rhanbarth iaith gwahanol yn dod ynghyd i ddathlu eu hieithoedd yn Ynysoedd y Balearig, Sbaen. Ar ôl cystadlu yn gynharach eleni, bydd y bobl ifanc yma rhwng 14 a 17 oed ynghyd â’u hathrawon, yn ymuno â champws Gweithgareddau Dosbarth Siarter Ewrop (ECCA).
Beth yw prosiect ECCA? Mae’n brosiect lle gall ysgolion weithio ar weithgareddau o’r Siarter Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol neu Ieithoedd Lleiafrifol yn yr ystafell ddosbarth drwy gydol y flwyddyn. Nod prosiect ECCA yw datblygu gweithgareddau ystafell ddosbarth sy’n canolbwyntio ar iaith a dod â phobl ifanc a’u hathrawon o wahanol ranbarthau iaith yn nes at ei gilydd. Mae dros 7000 o ieithoedd byw ar draws y byd erbyn hyn, 60 ohonynt yn ieithoedd rhanbarthol neu leol yn Ewrop a siaredir gan tua 40 miliwn o bobl. Mae prosiect ECCA am wneud Ewropeaid ifanc yn ymwybodol ac yn falch o’u hiaith ranbarthol ac i godi ymwybyddiaeth bod mwy o ieithoedd na’r 24 iaith swyddogol sy’n cael eu cydnabod gan yr Undeb Ewropeaidd.
Cystadleuaeth ECCA
Cymerodd ysgolion gwahanol ledled Ewrop ran yn gynharach eleni mewn cystadleuaeth a drefnwyd gan ECCA. Mewn gwahanol ystafelloedd dosbarth ar draws Sbaen, yr Eidal, Cymru, Romania, Sweden a’r Iseldiroedd gofynnwyd i ddisgyblion ateb y cwestiwn canlynol: pam ddylai pobl ymweld â’ch rhanbarth iaith? Barnwyd mai’r 24 person ifanc a ddewiswyd oedd y mwyaf creadigol a dyfarnwyd y cyfle hwn iddynt ymuno â champws ECCA ac i groesi ffiniau â’u hiaith.
Campws ECCA
Yn ystod campws ECCA y penwythnos hwn bydd cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol yn eu gwahanol ieithoedd. Er enghraifft, byddant yn creu rap gyda’i gilydd mewn 8 iaith gwahanol. Byddant hefyd yn dysgu sut i ddod yn Newyddiadurwr Mobil (MoJo) drwy greu eitem newyddion i Gyngor Ewrop am (ac yn) un o’u hieithoedd. Disgwylir i brosiect ECCA ddod â phobl ifanc at ei gilydd i rannu profiadau a’u teimladau am siarad iaith ranbarthol/leiafrifol a dod ag ymwybyddiaeth gadarnhaol am werth dwy iaith ac amlieithrwydd.
Rhwydwaith i Hyrwyddo Amrywiaeth Ieithyddol
Mae’n bosib cynnal prosiect ECCA drwy grant gan y Rhwydwaith i Hyrwyddo Amrywiaeth Iaith (NPLD) a chyfraniadau gan y partneriaid sy’n cymryd rhan. Mae’r NPLD yn rhwydwaith eang Ewropeaidd sy’n gweithio ym maes polisi iaith a chynllunio ar gyfer ieithoedd ar draws Ewrop. Mae aelodau NPLD yn cynnwys llywodraethau cenedlaethol a rhanbarthol, prifysgolion a chymdeithasau. Mae prosiect ECCA yn benodol bosibl gan y partneriaid canlynol: Talaith Trento, Agjenzie Regjonâl pe Lenghe Furlane (ARLeF), Prifysgol Partium Christian, Xarxa Vives d’Universitats, Cyngor Taleithiol Bizkaia, Llywodraeth Cymru, Prifysgol Stockholm a Thalaith Fryslân.
Canlyniadau’r ECCA
Gellir gweld canlyniadau campws ECCA ar y cyfryngau cymdeithasol ar Instagram (thisismylanguage.eu), Twitter (myeulanguage) ac mewn 8 o’r ieithoedd sy’n cymryd rhan ar y wefan. Ym mis Medi, mis Diwrnod Ieithoedd Ewrop, bydd crynodeb canlyniadau o’r prosiect yn cael ei gyflwyno i gynrychiolwyr y Cyngor yn Ewrop ym Mrwsel.
Am ragor o wybodaeth neu i gysylltu â chynrychiolydd o’ch rhanbarth yn uniongyrchol, cysylltwch ag arweinydd y prosiect, Ypie Boersma, y.boersma@fryslan.frl +31 615855947. I gael rhagor o wybodaeth am brosiect ECCA www.thisismylanguage.eu
Bydd yr ysgolion canlynol yn cymryd rhan: Scola Ladina de Fascia, Istituto Statale di Istruzione Superiore “Magrini Marchetti”, Ady Endre Higschool, Escola Andorrana de Batxillerat, Salesianos Barakaldo, Ysgol Garth Olwg, Sverigefinska skolan a CSG Bogerman Balk.